Walter Raleigh

Walter Raleigh
Ganwydc. 22 Ionawr 1552 Edit this on Wikidata
East Budleigh, Hayes Barton Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 1618 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylBeilïaeth Jersey, Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, bardd, ysgrifennwr, marchog, gwleidydd, ysbïwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Arglwydd Raglaw Cernyw Edit this on Wikidata
TadWalter Raleigh Edit this on Wikidata
MamKatherine Champernowne Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Raleigh Edit this on Wikidata
PlantWalter Ralegh, Carew Raleigh Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Walter Raleigh (1554 - 8 Tachwedd 1618) yn awdur, bardd, gwleidydd, marchog, ysbïwr a fforiwr o Loegr a ddaeth i enwogrwydd yn ystod teyrnasiad Elisabeth I.

Roedd yn un o ffefrynnau llys Elisabeth I a amlygodd ei hun fel un o fforwyr gorau'r cyfnod. Perthynai i gyfnod pan oedd bycaniriaid, môr-ladron ac anturwyr yn rheoli’r moroedd, a morwyr fel Francis Drake a Raleigh yn ymosod ar longau trysor Sbaen wrth iddynt ddychwelyd o’r Byd Newydd gyda llongau wedi eu llwytho â thrysorau. Roedd Elisabeth yn awyddus i sefydlu gwladfeydd i Loegr y byddai modd eu defnyddio fel canolfannau masnach i fasnachwyr Lloegr, ac a fyddai’n dwyn cyfoeth i’w theyrnas. Dyma pam y rhoddodd Elisabeth I sêl ei bendith i ymgyrch Raleigh yn 1585 i geisio chwilio am aur yn America a pherchnogi tir yn ei henw. Ceisiwyd sefydlu gwladfa newydd ger Ynys Roanoke, (Gogledd Carolina yn awr) ond methiant fu’r ymdrech. Enwyd y tir newydd yn ‘Virginia’ ar ôl y frenhines.

Cafodd Raleigh fywyd a gyrfa amrywiol, ac mae’n cael ei ystyried fel yr un cyntaf i ddod â thatws a thybaco draw o’r trefedigaethau yn America i Loegr. Dienyddiwyd ef yn Llundain yn 1618 wedi iddo dorri telerau ei bardwn gan Iago I.[1]

  1. "Ralegh, Sir Walter (1554–1618), courtier, explorer, and author". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search